Blodeugerdd o ganu gwleidyddol cyfoes (1979-2013) gyda chyflwyniad i gyd-destun gwleidyddol y cyfnod gan y golygydd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Bu’r daith o Refferendwm 1979 i Gyfrifiad 2011 yn un droellog. Gwelwyd newidiadau sylweddol yn nhirlun gwleidyddol a ieithyddol Cymru yn y cyfnod hwn, a daeth deuoliaeth yn rhan annatod o’n canu gwleidyddol wrth i’r beirdd bendilio rhwng gobaith ac anobaith. Mae’r detholiad newydd hwn yn cynnig trosolwg cyfoethog o ymateb y beirdd.
Yng ngeiriau’r golygydd, Hywel Griffiths “Drwy gydol y cyfnod, bu’r beirdd yn arsylwi, yn archwilio, yn cyfranogi ac yn byw brwydrau Cymru – yn canu clodydd ei harwyr ac yn dychanu ei dihirod. Yn wyneb bob anobaith a dadrithiad roedd creadigrwydd, a chafwyd llawenhau gyda phob buddugoliaeth”.