Cynhwysir yn y gyfrol Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan weithiau gan 77 o amrywiol feirdd, yn feirdd cenedlaethol, beirdd lleol digon amlwg yn eu dydd a ffyddloniaid y colofnau barddol yn y papurau wythnosol ac enwadol.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 11.95
Disgrifiad
Ym mis Hydref 1966 daeth pentref Aber-fan ger Merthyr Tudful yn ffocws sylw a chydymdeimlad y byd cyfan pan lithrodd tomen lo ar ben Ysgol Gynradd Pant-glas ar 21 Hydref gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion. Yma yng Nghymru, daeth Aber-fan hefyd yn ffocws i gorff o farddoniaeth Gymraeg drawiadol wrth i’r beirdd hwythau ymateb i’r drychineb, ar y pryd a hefyd dros y blynyddoedd hyd heddiw.
Dyma’r tro cyntaf i gasgliad mor gyflawn o gerddi am Aber-fan gael eu cywain ynghyd yn yr un lle. Dechreuodd y golygyddion, Christine a Wyn James, ar y gwaith dros ugain mlynedd yn ôl, a hynny oherwydd eu bod mor ymwybodol o bwysigrwydd ac arwyddocâd Trychineb Aber-fan i’r genedl.
Trwy roi sylw i ymateb y beirdd i’r ddamwain erchyll yn y pentref hwn, yr hyn mae’r golygyddion yn ei wneud ar un ystyr yw archwilio ymateb y gymuned Gymraeg yn gyffredinol i Drychineb Aber-fan.