Dyma gyflwyniad i un o feirdd disgleiriaf y Traddodiad Barddol gan un sy’n brif awdurdod ar farddoniaeth ganoloesol yng Nghymru.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 10.95
Disgrifiad
Gan ddefnyddio deunydd gweledol o amrywiol lawysgrifau o’r Oesoedd Canol ac aralleiriadau o’r cerddi gan yr awdur, mae’r gyfrol hon yn dod â ni gam yn nes at fyd a bywyd Dafydd ap Gwilym.
“… personoliaeth gyda’r fwyaf llachar yn ein llenyddiaeth ni, a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol hefyd.”
Gwyn Thomas
Mae Gwyn Thomas yn fardd, yn feirniad ac yn academydd o’r radd flaenaf. Ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor tan ei ymddeoliad. Fel un sy’n awdurdod ar y Traddodiad Barddol yng Nghymru, cyhoeddodd sawl cyfrol o draethodau, beirniadaethau a chyfieithiadau dros y blynyddoedd, ac mae’r gyfrol ddiweddaraf hon yn ychwanegiad pwysig at ei drafodaeth ar un o feirdd mwyaf Cymru.