Yn y gyfrol hon mae’r Prifardd T. James Jones, yr hynaf o ‘fois Parc Nest’, yn arddangos dawn y cyfarwydd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 12.95
Disgrifiad
Ac yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn bedwar ugain oed, dyma gyfle iddo adrodd ei straeon, i fwrw trem yn ôl dros ei yrfa lenyddol ac i fynegi ei ddaliadau, ei amheuon a’i obeithion parthed ei genedl a’r ddynoliaeth – a’r cyfan wedi’i wreiddio yn ei gariad at ei anwyliaid.
Jim Parc Nest yw’r cyntaf mewn cyfres o hunangofiannau llenyddol a fydd yn gyfrwng i’n prif lenorion drafod eu bywyd a’r dylanwadau ar eu gwaith.
Ganed T. James Jones yng Nghastellnewydd Emlyn. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr ac yn ddarlithydd drama cyn ymuno â’r BBC fel golygydd sgriptiau Pobol y Cwm. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1986 ac 1988 a’r Gadair yn 2007. Cyhoeddodd amryw o gyfrolau barddoniaeth a dramâu gan gynnwys Dan y Wenallt, ei drosiad nodedig o Under Milk Wood, Dylan Thomas. Bu’n Archdderwydd Cymru rhwng 2010 a 2013.