Ar drothwy coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn, dyma gyfrol gynhwysfawr gan Haf Llewelyn sy’n rhoi darlun o fywyd yn ardal Trawsfynydd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 10.95
Disgrifiad
Mae’r holl erthyglau, lluniau a llythyron sydd wedi eu cynnwys yn yr astudiaeth hon yn croniclo’r profiad o fyw yng nghysgod y Rhyfel Mawr. Yn ogystal â chyflwyno cefndir magwraeth Hedd Wyn, ei hanes yn filwr ifanc, ac yn fardd y Gadair Ddu, mae’r gyfrol yn estyn allan i adrodd hanes aelodau eraill y teulu, a thrwy hynny, gysylltu â’r gymdeithas ehangach yn Nhrawsfynydd a thu hwnt. Daw’r darllenydd i adnabod ei chwaer, Mary a fu’n astudio mewn Coleg Amaethyddol, a helyntion diniwed y ffrindiau Moi Plas ac Ellis yr Ysgwrn, ‘ y tynnwyr coes heb eu hail ’ a hynny ar aelwydydd clòs, cynnes ac mewn cymuned tu hwnt o brysur.
Dyma ddarlun gonest o’r gymdeithas wledig leol ym Meirionnnydd, a hynny drwy gyfrwng elfennau gweledol, yn lluniau o gasgliad helaeth Yr Ysgwrn; Parc Cenedlaethol Eryri a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dogfennau, toriadau papur newydd o’r cyfnod, a dyddiaduron. Atgynhyrchir llawsgrifau o waith Hedd Wyn – englyn a luniodd yn ei arddegau, a drafft o awdl ‘Yr Arwr’, yn ogystal â’r llythyr enwog ‘Rhywle yn Ffrainc.’
Rhennir y gyfrol hardd hon yn 12 pennod, gyda’r olaf yn canolbwyntio ar ymdrech teulu’r Ysgwrn i gadw’r cof am Hedd Wyn yn fyw – ac yn arbennig felly ar gyfraniad Gerald Williams, ei nai. A hithau bellach yn gyrchfan ddiwylliannol arloesol, bydd Yr Ysgwrn yn agor ar ei newydd wedd dros wyliau’r Sulgwyn.
Meddai Haf Llewelyn :
“Rydw i mor falch fod y gyfrol wedi gweld golau dydd, bu’n waith rhai blynyddoedd o ymchwil, ond rydw i wedi mwynhau fy ymweliadau mynych â’r Ysgwrn, a’r sgyrsiau difyr a dadlennol a gefais gyda Gerald Williams a Malo Bampton, am eu ewythr enwog Ellis Humphrey Evans. Mae’n nhw wir yn deulu arbennig, a thrwy eu dycnwch hwy fel teulu, yn bennaf mae’r Ysgwrn yn ddiogel, ac ar fin agor ei ddrysau i groesawu cenhedlaeth newydd eto, fydd yn cael eu swyno gan hanes y bardd o Drawsfynydd.”
Ychwanegodd Naomi Jones, Pennaeth Addysg a Chyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri :
“Mae cysylltiad Hedd Wyn â’r Ysgwrn yn adnabyddus drwy Gymru benbaladr, ond am y tro cyntaf, yn I Wyneb y Ddrycin, ym mlwyddyn canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn, cawn gyfle i gydnabod bri aelodau eraill o deulu’r Ysgwrn, i gofnodi ffordd arbennig o fyw ac i ddod i adnabod cymeriadau annwyl y teulu a’r gymuned leol. Dyma gyfrol sy’n gaffaeliad i’r Ysgwrn ei hun ac i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes y teulu rhyfeddol hwn.”
Cynhelir noson i lansio’r gyfrol yn nhafarn Yr Eagles yn Llanuwchllyn, nos Iau, y 4ydd o Fai yng nghwmni Haf Llewelyn ac aelodau o Aelwyd Penllyn. A bydd cynrychiolwyr o’r Ysgwrn yn bresennol i drafod y datblygiadau diweddaraf ar drothwy ail agor y ffermdy. Ar wythnos yr agoriad, ar Fai’r 31ain, bydd modd gwrando ar sgwrs rhwng Haf Llewelyn a’r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn yn Yr Ysgwrn, yn crynhoi cefndir y gyfrol hon sy’n gyfraniad gwerthfawr at ddeall pwysigrwydd Hedd Wyn fel bardd, ac arwyddocâd ei fagwraeth ym Meirionnydd.