A hithau'n 25 mlynedd ers i'r Pla gael ei gyhoeddi gyntaf, dyma argraffiad newydd o nofel flaengar Wiliam Owen Roberts. Ffantasi hanesyddol wedi ei lleoli yng Nghymru, y Dwyrain Agos ac Ewrop y 14G yw'r Pla, ond y mae ei hergyd yn gyfoes. Dyma gyfle o'r newydd i ystyried y nofel bwysig hon yng ngoleuni realiti yr heriau sy'n cyflwyno eu hunain i gymdeithas heddiw.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
“Anodd ydi coelio fod Y Pla yn dathlu ei phen-blwydd yn bump ar hugain eleni. Yn ystod y chwarter canrif a aeth heibio mae’r nofel wedi mynd â fi i laweroedd o wledydd Ewrop, a heb y teithiau a’r sgyrsiau hynny hefo myrdd o wahanol feirdd a llenorion ni fyddai’r nofelau a ddilynodd wedi eu sgrifennu yn y dull a’r modd y cawson nhw eu llunio. Mawr ydi fy nyled iddi.” Wil Roberts
Beth yw’r gwir haint sy’n bwrw ei gysgod tros fywydau cymeriadau’r gyfrol hon? Er mai Cymru ac Ewrop y Canol Oesoedd yw’r cefndir cymndeithasol a gwleidyddol, mae’r Pla yn codi sawl cwestiwn cyfoes. Dyma argraffiad newydd o’r nofel flaengar hon i ddathlu 25 mlynedd yr argraffiad cyntaf; gyda Rhagair gan Enid Jones.