Dyma'r ail yn y drioleg o nofelau gan Wiliam Owen Roberts. Mae'r teulu a ddihangodd o Petrograd bellach wedi chwalu i ddwy o ddinasoedd mwyaf dylanwadol Ewrop.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 12.95
Disgrifiad
‘Rwsia oedd ei symudiad cyntaf.
Berlin oedd yr ail.
Paris oedd y trydydd.
Paris oedd y symudiad pwysicaf un, yr un ddylai fynd â fo yn ôl i’r dechrau, yn ôl i’w famwlad yn gryfach dyn.’
Dyma hanes Alyosha, ei deulu a’i gyfeillion wrth iddynt wynebu’r her o fyw mewn alltudiaeth yn rhai o ddinasoedd mwyaf dylanwadol Ewrop ac Asia rhwng 1925 ac 1933. Beth yw’r pris mae’n rhaid iddynt ei dalu am warchod iaith a diwylliant, gwerthoedd a hunaniaeth?
Ynghanol chwalfa gymdeithasol ac economi gyfalafol sy’n gwegian, mae gwrthdaro gwleidyddol cynyddol dreisgar yn datblygu rhwng Comiwnyddiaeth a Ffasgiaeth. Ond ai gwleidyddiaeth ynteu’r galon sy’n rheoli ffawd Alyosha mewn gwirionedd?
Mae Wiliam Owen Roberts yn awdur llawn-amser sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae’n ysgrifennu ar gyfer y radio a’r teledu yn ogystal â’r theatr. Ystyrir ef hefyd yn un o’n prif nofelwyr. Eisoes cyhoeddodd Bingo (1985), Paradwys (2001) a Petrograd (2008) a chafwyd argraffiad newydd o’r Y Pla ym mis Tachwedd 2012.