Mae nifer fawr o gerddi yn y gyfrol hon - cerddi rhydd - yn ymateb i weithiau celf. Lluniau a welir yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru sydd wrth wraidd y dilyniant 'Llinellau Lliw' a enillodd iddi Goron y Genedlaethol yn 2005, er enghraifft, a cheir hefyd corff o gerddi sy'n ymateb i weithiau a gomisiynwyd ar gyfer Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2008.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 8.95
Disgrifiad
Bu’n daith ryfeddol. O ferch ddi-Gymraeg yn ysgol gynradd Saesneg Tonypandy i ysgolhaig uchel ei pharch yn y Gymraeg ac yn Brifardd cenedlaethol. Bellach mae’r Dr Christine James, Athro Cysylltiol yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, newydd ddechrau ar ei thymor o dair blynedd fel yr Archdderwydd benywaidd cyntaf yn hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.
Ar ddechrau’r cyfnod nodedig hwn yn ei hanes hi a’r Orsedd, mae’n bleser gan Gyhoeddiadau Barddas gyhoeddi ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Rhwng y Llinellau.
Cynnyrch y deng mlynedd rhwng 2003 a 2013 yw’r cerddi a gyhoeddir yn rhwng y llinellau, cyfuniad o gerddi a gyhoeddwyd eisoes, gan gynnwys sawl dilyniant, a llawer sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf.
Er bod nifer o’r cerddi’n tarddu o brofiadau dyfnaf bywyd, nid bardd un cywair, un mesur mo Christine James. O ddarllen ei cherddi canfyddwn edefyn pendant o hiwmor iach yn gwau rhwng y llinellau, ac o dan wyneb telynegol, ysgafn ambell gerdd gorwedd themâu cyhyrog a chyfeiriadaeth gyfoethog. Elfen arall ddifyr yn ei barddoniaeth yw’r modd y mae’n teilwrio ffurf a mesur i ffitio brethyn ei chân.
Nodwedd amlwg arall o’i gwaith yw’r cerddi ecffrastig, y rhai hynny sy’n ymateb i ddarluniau neu i weithiau eraill o gelfyddyd, ac sy’n adlewyrchu diddordeb byw’r bardd mewn Celf–gwaith arlunwyr Dadeni’r Eidal ac Argraffiadwyr Ffrainc yn fwyaf arbennig. Nid disgrifiadau moel o’r lluniau a gawn ganddi ond yn hytrach cerddi’n ymdrin â themâu oesol a’r rheini’n codi’n naturiol ‘o’i hymateb i’r gweithiau celf hynny. Mae’r bardd ei hun yn disgrifio’r broses mewn modd trawiadol: ‘Herwgipio’r gwaith y mae rhywun. Mae’n debyg y gellid ei alw’n lun-ladrad.’
La Parisienne gan Renoir, sef man cychwyn ‘y Ffrances a’r Gymraes’, un o’r cerddi yn y casgliad a enillodd y Goron iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau, 2005, sy’n harddu clawr y gyfrol. Yn wir y gerdd hon oedd y gyntaf o’r casgliad hwnnw iddi ei hysgrifennu. Ynddi mae’r bardd yn cyfarch ‘Gwen’ sef Gwendoline Davies, Gregynog, a brynodd y darlun ac o gofio mai wyres y diwydiannwr David Davies, Llandinam, oedd hi, mae’r disgrifiad o esgid ddu’r ‘Parisienne’ yn y darlun ‘fel cnwbyn cudd o’r glo mân/fu’n fodd i gyfoethogi gwlad’ yn eithriadol gyfoethog a chynnil ar yr un pryd.
Y cyfoeth a’r cynildeb hwn sy’n nodweddu cerddi rhwng y llinellau. Fel y dywed y bardd yn ei rhagair i’r gyfrol ‘awgrymu yn hytrach na dweud’ yw ei nod wrth ysgrifennu barddoniaeth ac y mae’r cyffyrddiad ysgafn hwnnw, ynghyd â’r delweddau cain sy’n cyd-fynd â llawer o’r cerddi yn y gyfrol, yn creu cyfuniad deniadol, trawiadol.