Cyfrol gyntaf prifardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6.95
Disgrifiad
Nia Bia’r Awyr yw’r casgliad cyntaf o gerddi gan Guto Dafydd, prifardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Dyma lais unigryw a threiddgar un o feirdd disgleiriaf ei genhedlaeth. Casgliad o gerddi am y profiad o fyw yn Gymraeg heddiw sydd yma – barddoniaeth a fydd yn eich cynhyrfu a’ch cyffroi.
Yn ôl Dafydd Pritchard, un o feirniaid cystadleuaeth y Goron eleni: ‘Y mae’r cerddi hynny’n ddoniol, yn rhybuddiol ac yn llawn consyrn … Dyma fardd praff a sensitif sydd yn gwybod yn iawn sut i ddefnyddio hiwmor i bwrpas … Mae ganddo glust hynod o fain sy’n dal rhythm llinell i’r dim …’
Cyhoeddir Ni Bia’r Awyr yn y gyfres ‘Tonfedd Heddiw’, sy’n rhoi llwyfan i feirdd ifanc.