Cyhoeddwyd Cerddi Alan Llwyd 1968-1990: y Casgliad Cyflawn Cyntaf ym 1990, ac yn awr dyma’r gyfrol olynol yn ymddangos.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 19.95
Disgrifiad
Mae’r ddwy gyfrol fel ei gilydd yn waith meistr mawr ar y gynghanedd a meistr mawr ar y Gymraeg yn ogystal. Casglwyd ynghyd yn y gyfrol hon y cerddi a gynhwyswyd yn y pedair cyfrol a gyhoeddwyd ar ôl i’r casgliad cyflawn cyntaf ymddangos, ond ceir yma hefyd adran sylweddol iawn o gerddi newydd sbon, a’r rhan fwyaf o’r rheini heb weld golau dydd o’r blaen. Yn ôl yr Athro Tudur Hallam yn ei gyflwyniad i’r gyfrol, yn y gweithiau diweddaraf hyn fe welwn y bardd ‘… yn canu rhai o’i gerddi mwyaf ysgytwol erioed’.
‘I mi, y mae cyhoeddi’r gyfrol hon yn brosiect ymchwil cyn bwysiced â golygu a chyflwyno o’r newydd waith Dafydd ap Gwilym … gan fod y naill a’r llall yn fardd sy’n peri i mi gyffroi a rhyfeddu wrth imi fwynhau ei waith; gan fod gwefr yn perthyn i’r profiad o wrando ar feistr sy’n gallu peri i’w grefft ymdoddi i’w gân, yn rhan ddiymwad ond amlwg ohoni.’
Penodwyd y Prifardd Alan Llwyd yn Athro yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn 2013. Mae’r ysgolhaig yn adnabyddus am ei gyfraniad sylweddol i faes beirniadaeth lenyddol, am ei gyhoeddiadau niferus ac am fod yn un o’n beirdd Cymraeg mwyaf cynhyrchiol. Noddir y gyfrol hon, sy’n ffrwyth gwaith creadigol o’r radd flaenaf, gan Brifysgol Abertawe.