‘Efallai na fyddwn fel hyn am byth, ac y daw trefn i geulo’n gwaed. Ond gall gobaith fod eto, yma, rhyngom.’
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 5.95
Disgrifiad
Daw Elis Dafydd yn wreiddiol o Drefor, Caernarfon a dyma’i gyfrol gyntaf o gerddi. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd 2015 ac mae newydd ennill gradd MA mewn Cymraeg o Brifysgol Bangor.
Yn ogystal â chynnwys y dilyniant o gerddi ‘Gwreichion’ ddaeth yn fuddugol yn yr Urdd y llynedd, mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys ambell gerdd arall sy’n dangos cymaint o ddylanwad fu’r diweddar Iwan Llwyd arno – yn gerddi serch, a cherddi gwleidyddol. Dyma gyfrol o gerddi sy’n cofleidio, yn cwestiynu ac yn dathlu – cerddi am y profiadau sy’n cyffwrdd i’r byw ac am gyfnod sy’n dod i ben.
Mae’r gyfrol yn gyfuniad synhwyrus o rhythmau sicr a sylwadau praff, ac o hyder bardd ifanc sy’n ceisio gwneud synnwyr o’r byd. Dyma’r bedwaredd gyfrol i’w chyhoeddi yn y gyfres Tonfedd Heddiw sy’n rhoi llwyfan i feirdd ifanc, disglair.