Dyma gyfrol hunangofiannol ei naws gan y Prifardd a’r Prif Lenor, Manon Rhys, sy’n gyfuniad o ryddiaith a barddoniaeth gyda’r ffin rhyngddynt yn gwbl annelwig.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 9.95
Disgrifiad
Mae’r mynegiant o’r herwydd yn ffres ac yn newydd ac yn denu’r darllennydd i ystyried rhythm naturiol yr iaith ynghyd â’r gwahanol dafodieithoedd a gyfleir yn rhai o’r cerddi a’r straeon byrion. Mae’r elfen hunangofiannol yn gref iawn trwy’r amrywiol ddarnau a phrofiadau’r awdur yn ystod ei magwraeth – ei phlentyndod a’i harddegau – yn ysbrydoliaeth i nifer fawr o’r cerddi. Mae teulu, difaterwch neu ddiymadferthedd pobl yn wyneb trychineb yn themâu amlwg hefyd.
Mae teitl y gyfrol, ‘Stafell fy haul’, yn bryddest am fenyw oedrannus nad yw’n mentro y tu hwnt i sicrwydd ei gardd a chwmïnaeth ei hadar a stafell ei hunig gyfaill, yr haul. O fentro, caiff ei siomi a’i dychryn. Pryddest mewn dwy ran yw ‘Dwy ffenest’ am yr hyn a welai’r awdur drwy ddwy ffenest ei chartref yn Nhrealaw, Cwm Rhondda: ffenest stafell lle cafodd ei geni a ffenest y stafell lle y bu farw ei thad, Kitchener Davies, yn hanner cant oed. Cyhoeddir yma hefyd ‘Breuddwyd’, sef y casgliad o gerddi a enillodd iddi Goron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015.
Ceir yma hefyd gyfeithiadau o gerddi Saesneg a straeon byrion. Ymhlith y casgliad o ddarnau rhyddiaith, mae ysgrif am brofiad diweddar yr awdur yn ymweld â Gardd Heddwch Comin Greenham, ddeng mlynedd ar hugain wedi iddi dreulio cyfnodau’n protestio yno yn yr 1980au. Ar y safle lle yr arferai wersylla yr adeg honno, yng nghwmni ei ffrind, y ddiweddar Gwenno Hywyn, y lluniwyd yr Ardd Heddwch er cof am Helen Thomas, o Gastellnewydd Emlyn, a laddwyd yno yn 1989 – yr unig brotestwraig a laddwyd yno dros flynyddoedd hir o brotest.
Addurnwyd y gyfrol â darluniadau pen ac inc gan yr arlunydd medrus Siôn Tomos Owen.