Cyfres dyner o gerddi siambr yw 'Rhaff' gan Mari George, am eu bod yn ddarlun o ddau, pâr, sy'n heneiddio, y mae un ohonynt yn dioddef o ddementia. Mae'r cerddi'n cyffwrdd yr enaid ac yn darlunio perthynas cwpwl yn y modd mwyaf synhwyrus, hyfryd ac ingol - y golled ddaw wrth i un golli'r cof ac i'r ymennydd ddechrau breuo, a'r llall yn gorfod gwylio'r dadfeilio'n digwydd.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 6