Mari George oedd ‘unigolyn’ yng Nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Llandŵ.
Yn ôl Mari ‘Fy magwraeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r cerddi. Teimlwn yn ynysig ar adegau gan fod fy naliadau a’m diddordebau i yn fy ngwneud yn wahanol i’r Cymry digymraeg a chanlyniad hyn oedd i mi dreulio blynyddoedd yn fy arddegau yn cwestiynu beth yw bod yn Gymraes a beth yw arwyddocâd yr iaith i mi. Mae’r iaith yn y dilyniant wedi ei phersonoli fel cariad sy’n mynd a dod o fywyd rhywun.’
Menyg garddio
Agorais y sied ar yr hafau a fu
a gweld hen fenyg
a’r ardd yn dal arnynt.
Gwynt tuchan Radio Cymru fore Sadwrn,
te claear a ffrae dros glawdd,
a blodau
a dillad gwaith
a’r Gymraeg
fel wyau drudwy.
Cofio mynd mas
ar ôl iddi dywyllu
a blas haul ar bridd y nos,
smoco
dan drwynau cymdogion
a miwsig eu ‘Coronation Street’
yn wylo
lawr y stryd.
Ein tŷ ni yn gweiddi’i Gymreictod
drwy’r ffenestri
fel nodau piano
a neb yn dilyn
y diwn.
Driftwood
…cloddiau’r hewlydd
yn mynd â ni
yn dawel fach
at y môr
ac mewn gwin cynnes a nerfau,
a’r haul di’n gwneud ni’n hurt,
daethom yn agos nes ein bod yn un,
fel darn o froc môr
wedi ei lyfu’n llyfn…
geiriau
yn ein gadael i fod
am y tro
taflu cerrig cynnes
fel adar yn caru’n igam ogam
yn yr awyr
ond roedd rhaid i ti fynnu sibrwd rhywbeth
am gariad
a’m tawelwch innau
yn lletwhith
fel staen ar lawes
neu fŵg mewn gwallt
gweld y cerrig yn torri yn siom
drwy wyneb y dŵr
…dau yn eistedd mewn car,
yn syllu ar y môr,
mor oer a dau gi tseina.
Cymraes
“You’re just so Welsh….”
Mewn tre yn rhywle
yn y de
fe dreisiais i’r Gymraeg.
Ei gwaed
yn toddi ar garreg
fel loli pop.
A dyna ddysg iddi!
Hi a’i syniadau mawr
yn fy nhynnu
i chwysu gwaed mewn protest,
a hollti blew a brethyn
a chanu cerdd dant.
Fe’i gwelais
yn lleuad noeth
mewn pwll o law
a darnau ohonof
yn wydr lliw
di chwalu drosti.
Fe dreisiais i hi
am iddi fy nghadw
wrth y byd.
Fe dreisiais i hi
er bod y meirw’n gweiddi
yn eu beddau.
A gwyddwn
y codai’r wawr
dros fy nghroen i wedyn
ac y deuai hi nôl
i wasgu ei ffordd ohonof
a’m gwaed i
yn dal arni.
Cydwybod
…y lle’n wyn
…ymwelydd annisgwyl
yn curo’r ffenest yn ysgafn
…yn ysgwyd llaw
ag artist
…yn blu
dros gariadon
sy’n gorwedd mewn golau cynnes
mewn tai pell
…daw
a’i ddwylo hiraeth
i’n rhewi
mewn sgwrs
fel dynion eira
…daw i ddefro
pob atgof
…daw
i dagu…
Cymuned
Mae hi wrthi’n marw.
Ei byd mewn stafell fach.
Es i i’w gweld wrth gwrs.
Taflu sgwrs a hwnnw’n glanio
fel awyren bapur
rhwng y grawnwin a’r bananas.
Cwrtais fel te o debot.
A hithau ’di cael ei gwthio mewn cadair
at y diwedd
ag yn ôl
sawl gwaith
bydd hi’n gwaedu’n rhwydd
wrth fodio llyfrau trwchus
ei hatgofion.
Mae pethau yn rhy fawr iddi.
Dreser a gwely a chloc, brwsh a chrib a llunie
a jwg a basin a iar yn wag o ŵye. Papure
losiyn o glecs. Papure bro. Croeseirie.
Mae hi’n marw a dyna’i diwedd hi.
Siôl
Fydden nhw’n syrthio
a rhedeg ata i
ac er y chwedlau a’r hwiangerddi
gwelais
nad oes geiriau all sychu dagrau.
Bydden nhw’n sugno fy iaith,
fy llyfu fel jam a thyfu’n drwm
yn fy nghôl
…a deuent nôl o’r ysgol
yn llawn llediaith a lledrith
i greu mabinogi newydd
a throi o’m hamgylch fel rhubannau…
eu hawelon yn fy nilyn
o stafell i stafell…
…a’m diosg wedyn
fel siôl.
Gwelais
fod sgrech y geni a’r colli
yn un.
Llangrannog yn y glaw
Hen aeaf oedd Mehefin
a hawdd
oedd dod yn Gymry
am y pnawn
a ninnau’n griw mewn tafarn
yn gwbod y cyfan.
Hawdd barddoni
a’r gwydrau gwag yn llenwi’r bwrdd.
Stêm cotiau,
a chynffon ci,
a hen dywod yn llawn grisialau hanes.
Yfais nes i ti ddod ataf
er i mi dy nabod erioed.
Yfais
nes gweld
drwy’r ffenestri hallt.
Yfais
nes gweld cantre’r gwaelod…
…ac addo, addo
dod nôl i fyw
fan hyn.
Addo mewn ogof.
Yr haul yn diflannu,
y sgwrs yn datod ei lasys
a difaterwch cwrw haf yn arllwys y gwir dros y bwrdd.
Dy wyneb
yn fy ngwydr
yn gwenu’n newydd.
Eco
Dy weld ym mhobman wedyn…
Ein dwy law yn gafael
drwy anibendod
wthnos steddfod.
Dy weld yn y nant
a rhwng y gwibed,
ac olion pob sgwrs fu rhyngom
yn ffrwydro’n aur rhwng y sêr.
Dy weld yn y chwedlau
ac yn llun y lleuad
ar wyneb y môr.
Rhoi mysedd arnat
heb wybod os wyt ti
wir yna
o gwbwl.
Ond yn yr amser
rhwng cwsg a breuddwyd plentyn
fe fyddi gen i
am byth.
O na fyddai’n haf o hyd
Oedodd y nant.
Sythodd y wê yn yr awel.
Trodd y dŵr yn y biben
yn wydr
i chwalu’r car
a’r tarmac.
Daliodd siglen
hwyl y plant yn ei llaw.
Naddwyd
straeon
ar foncyff
yr awyr.
Dy gusan
yn sioc
ar wefus.
Nodau piano
yn atgof
o haf
fu’n braf i gyd.
Fy iaith i
Mynd atat
drwy linellau o haenau
fel clirio llwybr
yn yr eira.
Tynnu
un gair ar ôl
y llall
yn llawn gwanwyn
o egni.
A’r cyfan sy’n weddill
yw tamaid bach
o farrug
y cysgodion
yn gwrthod
dadmer.
Sgribls
Bum yn ddi-dywydd
di-deimlad
yn dod i’r un caffi
bob dydd.
Yr un ewin o leuad
yn crafu’r dre lonydd
a llwch emynau’n codi
o hen gapeli.
Yr un trennau’n torri’n sŵn drwy flinder
diwedd prynhawn.
Dof yma bob dydd
yn llawn o eiriau
i’r un caffi o hanner brawddegau
a’m papur a phensil.
Gwylio babis
mewn dillad hyd eu llygaid
yn cael stŵr Saesneg,
yn grac cyn eu hamser.
Bum yn ddi-dywydd
di-deimlad.
Ond gyda ti
daw pob trên yn ôl o’i dwnel
yn llawn cwmpeini
i droi bratiaith
yn farddoniaeth
a hiraeth.
Y lleuad
yn cynhesu drwyddo
a thiwn fy hyder i
yn yr aer
fel pe bai
’di bod yma erioed.
Awdur
Mari George
Mae Mari George o Ben-y-bont ar Ogwr ac mae'n aelod o dim Ymryson Morgannwg yn ogystal â bod yn aelod o dîm Aberhafren ar Dalwrn y Beirdd BBC Radio Cymru.