Yng nghystadleuaeth y Goron ym Mro Morgannwg, gofynnwyd am ddilyniant o gerddi ar y testun ‘Ynys’. Roedd cryn ganmol ar gerddi Xanthe, ac fe’u gosodwyd yn y dosbarth cyntaf gan bob un o’r beirniaid. Ond roedd CYRIL JONES yn arbennig o ganmoliaethus. “Gobeithio y cyhoeddir y stori fer hon o ddilyniant yn fuan,” meddai. Mae’n bleser gennym wneud hynny yn awr, a datgelu mai MEIC STEPHENS ydi Xanthe.
Hi, Daf!
Dyma fi wedi glanio’n saff.
Perl o ynys yw Eftichios.
Twym iawn yma, fel cegin
’Gu ar ddiwrnod ffwrna.
Awyr yn ystrydebol o las
a’r môr, ie, fel gwin tywyll.
Gwesty grêt. Pobol fflonsh.
Dim papure, dim teledu
i sôn am ffradach y wlad.
Henebion rif y gwlith,
meline gwynt, perllanne sitrws,
tai’n gwmws fel ciwbie siwgir.
Sori am fynd ar gil yn ddinotis,
angen whe fach i hel meddylie.
Paid becso ’boiti’r hen Gader –
blwyddyn nesa’, siŵr o fod.
Cymer gâr, gw’boi. Leri x
Annwyl Jên
Ddes i yma bore echdo’,
ar y plên o’r Rhws i Irákleion
a fferi draw i’r Ynys wedyn.
Awyr lliw potel Tŷ Nant.
Yma am fis, neu am byth!
Wedi gadel ’y ngofidie gytre,
’da lwc. Gwesty bach deche,
yr Eleftheria — ’sdim rhaid
imi gyfieithu i swot fel tithe!
Un seren ond digon posh
i Meiledi yn ’i mŵd presennol.
Dyma’r olygfa dros yr harbwr
sha’r eglwys — Grîc Orthodonti!
Ond pam wedai’r hen Homer
bod y weilgi ‘mor dywyll â gwin’
(os cofiaf ein darlithie’n iawn)
’sdim amcan ’da fi – rhaid fod
y Groegiaid gynt yn lliwddall!
Wel, cofion crasbo’th at bawb,
heb anghofio Rhodri – ti’n lwcus
dros ben i fachu shwd hync.
Diolch am y parti pentymor.
Hwyl fawr! Yassŵ! Leri
Colsyn
Dyma’r tro cyntaf imi gadw dyddiadur –
cyfle i weud y gwir heb os nac onibai.
Shigowtan ar y tra’th. Dechre dala’r haul.
Rhyfedd cofio fod y Cymry’n cerdded
rownd a rownd y Maes y prynhawn ’ma
tra bo’ Meiledi ar ’i hyd yn ’i bicini
a’i hat wellt. Wy’i wedi blino’n siwps
ar yr hen, hen rigole. Rhaid ca’l hoe!
Meddwl am Rhodri’n ddi-baid – a Daf.
Mêl a menyn, y cyfryngi a’r bardd,
y cleciwr a’r dyn camera, a dyma fi
yn delffo am y ddou fel croten ysgol.
Odi Jên yn ame, gwêd? Fy ffrind gore!
Un cusan ar stepen y drws wedi’r parti
pentymor, ’na’r cyfan. Ond O, ma’r blas
yn felys dost ar ’y ngwefuse o hyd!
Rhag y colsyn sy’n llosgi’m cydwybod
do’s dim eli i’w ga’l. Tân ar ’y nghro’n.
’Whedleua
Helo, Jên, ti kaneis? Wedi bod yn cerddetan rownd yr Ynys.
Dyddie glas y dorlan! Cyfle i ddwbwldapo (stwna i chi’r Gogs).
Sori am y ’sgrifen tra’d brain, wedi dod heb yr ei-ffôn, t’wel.
Wy’i’n dysgu bach o’r dafotiaith leol gan nad yw’r Lonely
Planet rhyw lot o help, wir, os wyt ti am gwrdda’r brodorion.
Ro’n i wedi porthi’m cof am ’whedle’r wlad cyn cychwyn,
gan hwthu’r dwst o glorie rhai o’m hen werslyfre Coleg.
Ond ma’ ’mhen yn troi ’da’r holl raligampo (giamocs iti) —
pawb yn bonco pawb, puteindra, llosgach, nymffomania,
ceffyle sy’n mynd acha gefen menwod, pedoffilia, duwie horni,
ac un ferch sy’n ca’l secs ’da tarw! ‘Dywedwch wrthyf, Dr
Gronow, pe’ch penodir chwi yn Bennaeth Adran y Clasuron,
a fyddech yn gallu ein sicrhau na fyddai, ahem, y fath stwff . . .’
gallaf glywed llaish y Gaffer yn tyrfo hyd y dydd hwn.
Ond ’na fe, pwrpas trafaelu yw tempro dysg ’da phrofiad,
medden nhw. Bydde Rhodri ar ben ’i ddigon yma, er taw
eitha’ di-ffrwt yw’r Iliad o’i gymharu â randibŵ Cwmderi,
’weden i! Shwd ma’r hogyn annwyl, gyda llaw? Wel, Jên,
digon am y tro. ’Sgwn i pwy sydd wedi ca’l y Gader eleni?
Nage Daf, yn amlwg, er ’i fod yn agos bob blwyddyn —
’i enw yng Ngorsedd yw Dafydd y Llwy Bren! Ta-ra!
Harbwr
Es i lawr i’r harbwr fore heddi i weld y cychod
a’r pysgotwyr yn dadlwytho’u haliad – sgyde
o arian cennog yn llenwi basgedi enfawr ar y cei.
Cawlach o raffe, gwylanod, rhwydi, gwrec môr
a dynon ’da halen yn ’u barfe’n boichen ar ’i gilydd;
cimychod, llyswennod, morgathod a phob math
o greaduried ma’s o ryw lyfr lliwio ro’n i’n ffili
rhoi enwe arnynt. Yna, whap, weles i e, yn sefyll
ar ddec cwch bach, yr Ariadne, ac yn gwenu arna’i,
yn eitha’ ffit ond ’da rhywbeth dengar yn ’i lyged.
Bachan yn ’i bumdege, ‘i wallt yn britho, yr un big
â Robert De Niro ’da bach o Ioan Gruffudd ’boiti fe.
A phan dda’th ata’i ’da chrel o fishglod yn shîno
yn ’i ddwrn, do’dd dim dewis ’da fi ond ’u prynu.
Do’dd e ddim am yr arian, ’chwaith. ‘To lady, I give,’
mynte fe, ac ar hyn, plygodd ’i ben a chusanu’m llaw.
‘Efharisto,’ mynte fi, er nage am y cregyn duon
o’dd ’y niolch. Ro’dd Meiledi wedi ca’l modd i fyw!
Traserch
Rw’i wedi gwneud rhywbeth ombeidus.
Ti’n ’nabod fi, Jên, sa’i’n hoedenna, wel,
dim ers dyddie Coleg, ta p’un. Ond ma’ ’na
rhywun sydd ar fy meddwl o fore hyd hwyr.
Wyf hapus, wyf drist, wyf benwan, wyf heiper!
Do’s dim byd wedi digwydd ’to, ar f’encos,
ond ma’ fe’n anodd ’da fi beido gobeitho
y daw pethe i fwcwl un o’r dyddie ’ma.
Dim ond un cusan ac wy’i’n dros ’y mhen
a’m clustie! Gwn mod i’n ’whara bili-ffŵl
ond sori, Jên, alla’ i ddim peidio, wir iti.
Ma’r awyr yn llawn o blu bach yr haf
ac ma’ adar mân yn switian o bob colfen
ar yr Ynys. Ma’r mor fel gwin pefriog.
Dim smic wrth Daf, plîs, na Rhodri – nag yw
dynon yn cŵl iawn ’da thraserch merch,
os coeliwn ni’r ’whedle. Ti’n cofio’r hogs
yn ffili gwneud na phen na chwt o’r rhai
mwya’ ffriwti, a’r hen Proff John, pŵr dab,
yn ’whys drabŵd wrth dreial ’u hesbonio
fesul llinell, a ninne’n cilwenu yn ein llawes?
Wel, ’na draserch iti, Jên – ma’ fe’n dywyll
tu hwnt, ond yn dryloyw i’r rhai sy’n ’i brofi.
’Sdim digon o le ar y garden hon i ragor. L.
Bitsh
’Na’r unig air amdana’i. Am Rhodri ro’n i’n sôn,
ond yn benffast, gan ddichellu’m ffrind mynwesol
er mwyn yr ias ’wherwfelys o fynegi’m teimlade.
Slic ar ’y nhafod o’dd y geirie mowr ’na, ond rhaid
o’dd eu defnyddio i gwnnu bwrn oddi ar ’y nghalon
fel rhyw fath o gyffesiad, sbo. Jyst imi fynd draw
i’r eglwys heno, ond ma’r holl drimins a’r howdidŵ
am y Tair Mari’n ddiarth iawn i ferch y Mans fel fi;
ma’ angen bach o Galfiniaeth ar bobol, wedi’r cyfan.
Ta beth, rhaid gweud wrth rywun, rywbryd, rywsut,
i leddfu’r dolur a’r digofaint ar ’r hyn y bydde Nhad
yn ei alw’n ‘dy gownt tragwyddol â’th Greawdwr’,
er ei fod wastod yn rhy fishi i drin pethe felly ’da fi;
dagre pethe yw mod i wedi cefnu ar y ffrabls ’ny ers tro.
Ma’ Meiledi’n atebol i neb ond hi ei hunan nawr!
T’wyllwch
Shwd wyt ti, calon cabetsien?
Wedi bod yn meddwl amdanat ti,
Daf, a noson y parti pentymor.
Hanner ffordd trwy’r gwylie nawr.
Ma’r fagddu ar yr Ynys hon
yn ddigon i ddrysu un fel fi.
Neithwr ro’dd y Pleiades,
y Saith Seren Siriol, yn t’wynnu
fel haid o bryfed tân. Eto i gyd,
ffiles i deimlo rhyw lawer
ond diddymdra ’y mywyd,
a llond twll o ofon yn ’y mola.
Ma’ hi’n salwino’n gynnar heno,
a’r sêr wedi mynd o dan gwmwl.
Ma’r hen gythrel yn ’y nghwrso
o isfyd gole-tywyll ’y mod.
Cana gân, cynna ganwyll, Daf,
er cof am Meleri Ann Gronow.
Rhwyd
‘Lady, here is good meeting,’ mynte fe, a’i wên
cyn lleted â’i farf. ‘Kalispera,’ atebes, gan obeitho
fod Meiledi’n llwyddo cadw peth o’i hunanfeddiant.
Ro’n i’n ishte wrth ford ar deras un o’r tafernas
tra bod yr haul yn machlud y tu hwnt i’r ynysoedd lleiaf,
fel Shirley Valentine wedi ’i jimo yn ’i jangylaris
yn delwi am Tom Conti mewn hôps caneri coch,
a chopi o Zorba the Greek yn mudlosgi ar ’y nghôl —
ma’ awch y boi am y goleuni’n canu cloch ’da fi.
Ry’n ni’n cafflo ein gilydd, a’n hunain, yn ewn
gan nad yw plant y llawr yn gallu goddef gormod
o d’wyllwch. Ta p’un, dyma’r pysgotwr yn swatio
ar ’y mhwys i a dechre tynnu sgwrs. ‘You read
Kazantzakis,’ mynte fe, ‘he speak truth, our Nikos.
Much sin and very much forgiving in this man.’
Ac yn ’y ngwendid, cwympes yn gliwt i’w rwyd.
Gwa’d
Daf, shwd ma’ hi’n ceibo?
Wyt ti’n ymdopi’n ôcê?
Ma’r teclyn i agor tunie
yn y drâr gwaelod (jocan).
Paid byta gormod o gyrris
a chofia rhoi’r fflwcs ma’s.
Dyma forglawdd yr Ynys,
a’r cychod bach, fe weli di’r
daferna lle o’n i neithwr
tan berfeddion. Es i yno i weld
y goleuade’n dod ymla’n,
a Bwa’r Gwynt yn frith gan sêr.
Wy’i’n byw ymhlith pobol
anghyfiaith a, heb y lingo,
wy’i’n ’whara bwmbwr
mewn t’wyllwch parddu blac.
Nage mewn retsina yw’r ecs
ar waelod y garden hon
ond gwa’d. Jonac y tro hwn. x
Gwibdaith
Erbyn inni gyrradd beisfor un o’r ynysoedd lleiaf
ro’n i’n barod i wrondo arno fe tan fore ffair niwl.
Hanes ’i dylwth yn gyntaf oll: bu’r Saith Mlynedd
yn gyfnod anodd i’w siort nhw. Rhyddid, medde,
o’dd ’u gwin a’u bara a chynnal yr achos ’u popeth.
Dewisodd fod yn Ynyswr, fel ’i gyndade o’i fla’n,
ac ymhlith ’i bobol ’i hunain. ‘Here is my country,’
medde. ‘Here, I am free man.’ A phan o’dd y cewyll
wedi’u gosod yn ’u lle, cynnodd dân bach ar y tra’th
ac wrth i’r fflame dowlu’u gole rhag y t’wyllwch
a ninne’n cwlffan y macrel gyda’n bysedd, teimles
yn ddibryder yn ’i gwmpni, fel y teimlwn ’da Nhad
ym more f’o’s. Yna, cydiodd yn ’i bwswci a dechre
ganu’n gyfareddol am Ariadne, merch Minos, brenin
Creta’n yr hen amser. Siaredes inne am yr hyn a’r llall
fel pwll y môr. ‘Lady speak much,’ mynte’n dirion.
‘Lady is very sad.’ Wedyn, fy holi’n dwll amdana’i,
ac fel llucheden, beth o’dd enw ’y nghariad? ‘Rhodri —
no, Dafydd,’ mynte fi, wedi fy nal ar y gamfa, gan
dreial cwato ’y nryswch a’r enwe fel lludw yn ’y ngheg.
‘Katalaveno,’ mynte fe. Dim angen inni whilia rhagor.
Gwelson ni’r cyfddydd yn taenu dros yr ynysfor
a Chaer Arianrhod yn pefrio’n ddirfowr uwchben.
’Defyn
Neithwr ro’dd Orion yn llacio
’i wregys uwch ’y mhen, a’r Trypser
yn ffoi rhag ’i fytheied. O Heliwr,
tosturia wrthym yn ein gwaeledd!
Wy’i’n siŵr y baset ti’n gweud
taw Homer o foi yw hwn, Jên.
Ma’ fe wedi estyn ’defyn, t’wel,
i’m fforddi ma’s o’r labrinth.
Paid gweld ’whith arna’i, Jên fach,
ma’ angen traserch ar ferch fel fi,
fel ’r unig brawf fy mod i’n fyw.
Rw’i wedi danto ar fod yn ynysig,
rw’i am fod yn rhan o’r tir mowr.
Os na ddaw ’y nghwch i’r hafan
gwêd wrth ’y Nhad dihidans
imi fyw heb obaith, heb ofon,
ac mewn rhyw fath o ryddid!
Pen y daith
Ca’s yr Ynys hon ’i henwi
ar ôl Eftichios, sef y gwrda
wna’th shwd gymint i dowlu
pontydd dros ddyfro’dd garw;
yn ôl yr hanes, fe a ddygodd
oleuni i’r ynysfor tywyll.
Wy’i’n credu imi ddod
ar draws ’i lusern ar yr Ynys,
mod i wedi profi, am wn i,
ryw fath o drobwynt, yn ystod
’r wythnose d’wethaf, Daf,
er troi’n f’unman yn amal.
O’r hir ddiwedd, gwelaf
oleufer ym mhlu’r paun.
Sa’ i’n erfyn mwy na ’ny
mewn byd sydd fel y facas.
Wy’i’n folon herio’r Moirai
o hyn ymla’n, doed a ddelo.
Sha pen y daith nawr,
dim rhagor o loia. Leri
Nodiadau
Eleftheria: Rhyddid
Mor dywyll â gwin: Er bod ‘the wine-dark sea’ yn ymadrodd adnabyddus yn
Saesneg, ni cheir y ddelwedd yng ngwaith Homer. Dim ond ‘y môr tywyll’ sy’n eiddo i’r bardd; ychwanegiad gan Chapman oedd y cyfeiriad at win.
Yassŵ!: Hwyl fawr!
Ti kaneis?: Sut wyt ti?
Efharisto: Diolch yn fawr
Y Tair Mari: Y tair menyw a safai wrth feddrod Iesu ac sy’n cael eu dwysbarchu gan yr Eglwys Uniongred Roegaidd
Kalispera: Noswaith dda
Kazantzakis: Nikos Kazantzakis (1883-1957), nofelydd, brodor o Greta, ac
awdur y nofel enwog am Zorba’r Groegwr (1946) sy’n gwrthgyferbynnu
gofynion y cnawd a’r ysbryd; ar ei feddrod yn Herakleion y mae’r geiriau,
‘Gobeithiaf am ddim. Ofnaf ddim. Rwyf yn rhydd.’
Bwa’r Gwynt: Un o’r enwau eraill am y Llwybr Llaethog, fel Caer Arianrhod
Y Saith Mlynedd: Rhwng 1967 a 1974 diddymwyd democratiaeth yng Ngwlad Groeg gan y Cyrnoliaid a llywodraeth yr unben Papadopoulos
Thesews: Prif arwr Atica yn y chwedlau Groegaidd a gafodd edefyn gan Ariadne i’w arwain o ffau’r Minotor
Katalaveno: Rwy’n deall
Orion: Heliwr enwog yn y chwedlau Groegaidd lle mae e’n ymlid y Pleiades; ynby Deheubarth enw y clwstwr hwn o sêr yw Y Trypser
Eftichios: Esgob a sant yn y chweched ganrif; mae ei enw yn cyfleu’r ystyr ‘un sy’n dwyn hapusrwydd’ a’i swyddogaeth oedd creu cytgord ymhlith pobl yr ynysoedd
Moirai: Yn y fytholeg Roegaidd, tair hen wrach sy’n nyddu edefyn i glymu pobl wrth eu tynghedau
Awdur
Meic Stephens
Bardd, academydd, newyddiadurwr a golygydd llenyddol oedd Meic Stephens (1938 – 2018). Roedd yn gyfrannwr cyson i dudalennau Barddas ac enillodd nifer o dlysau'r Gymdeithas.