Rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol.
Mae Cynllun Pencerdd yn cynnig cyfle i bum bardd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru.
Trwy gymysgedd o gefnogaeth unigol a gweithdai dwys, y gobaith yw y bydd hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu yn cynyddu, ac y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.
Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng Mawrth 2024 a Mawrth 2025.
Darllenwch ragor am enwau’r beirdd dethol ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
“Mae rhoi cyfle i feirdd ifanc feithrin eu doniau cynganeddol yn greiddiol i genhadaeth Barddas. Tra bod ysgolion barddol a gwersi cynganeddu ar-lein i’w cael ledled Cymru, nid yw’r gynghanedd yn cael braidd dim sylw yn ein hysgolion bellach.
Hoffem ddiolch felly i Lenyddiaeth Cymru am allu darparu’r adnoddau a’r cyllid i greu cynllun arloesol. Mae gennym bartneriaeth strategol gyda Llenyddiaeth Cymru ac mae’n braf gweld ein cyd-weithio yn dwyn ffrwyth. Bydd Pencerdd yn gwneud llawer o ddaioni nid yn unig i’r pum bardd sydd wedi cael eu dewis, ond hefyd i fyd y canu caeth yn ehangach wrth roi cyfleon i leisiau newydd fireinio eu crefft a, gobeithio, dod yn benceirddiaid eu hunain.”