Mae gan Dr Sara Louise Wheeler Syndrom Waardenburg Math 1, sef cyflwr genetig prin sy'n effeithio ar ymddangosiad corfforol a'r clyw. Mae Sara wrthi'n archwilio ei phrofiadau corfforedig, a'r goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol, trwy nifer o gyfryngau ysgolheigaidd a chreadigol, gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifau, a gwaith celf. Mae ei hymchwil bresennol yn cynnwys meistroli’r gynghanedd a barddoniaeth arwyddiaith. Yn 2020, sefydlodd Sara ‘Gwasg y Gororau’ er mwyn blaenoriaethu gwaith creadigol pobl y ffin.
gwasgygororau.wordpress.com/
twitter.com/SerenSiwenna
Erthyglau
O’r Gororau: Sara Louise Wheeler
Prosiectau
Ionawr 2021
Cyfraniadau i Gylchgrawn Barddas
Dyma rai o'r rhifynnau diweddaraf y cyfrannodd Sara Louise Wheeler iddynt.