Mae’n bleser gan Barddas gyhoeddi taw Alaw Griffiths yw Cydlynydd newydd y Gymdeithas Gerdd Dafod.
Yn enedigol o Sir Fflint, mae Alaw bellach wedi ymgartrefu yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth gyda’i gŵr Hywel, eu plant Lleucu a Morgan, a’u ci bach Sami.
Ers pymtheg mlynedd mae Alaw wedi gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru, gan gynnwys cynrychiolydd gwerthiant Cyngor Llyfrau Cymru, swyddog rhaglennu a marchnata Theatr Felinfach, ac mae ar hyn o bryd yn Gydlynydd Rhaglen Artistig yn Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, ble mae hi hefyd yn athrawes clocsio. Yn 2015, golygodd y gyfrol Gyrru Drwy Storom (Y Lolfa) â’r bwriad o leihau stigma a chwalu tabŵ am gyflyrau iechyd meddwl. Ar y cyd â’i swydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, mae hi hefyd yn rhedeg ei chwmni trefnu priodasau a digwyddiadau ei hun, Digwyddiadau Calon, ac wedi ennill sawl gwobr yn lleol ac yn genedlaethol am ei gwaith. Mae’n wyneb cyfarwydd ar raglen poblogaidd S4C, Priodas Pum Mil, gan mai hi yw’r Trefnydd Priodas sy’n ceisio cadw trefn ar y cyflwynwyr, Emma a Trystan! Mae Alaw yn edrych ymlaen at y bennod newydd yn ei bywyd o ymuno â theulu Barddas.
Mae’n hynod gyffrous i gael dechrau yn y swydd ac meddai Alaw;
“Dwi’n teimlo’n lwcus a diolchgar iawn am y cyfle i gefnogi gwaith pwysig y Gymdeithas. Mae llyfrau, llenyddiaeth a diwylliant byw Cymraeg wedi bod yn rhan greiddiol o fy mywyd ers yn ifanc iawn. Dwi’n ddarllenydd brwd, a does dim yn well gen i na mynychu digwyddiadau byw ym myd celfyddydau traddodiadol a gwerin, boed hynny yn rai cerddorol, theatrig, o fyd dawns, neu berfformiadau barddol. Dwi’n gwybod y bydd colled enfawr ar ôl Ffion Medi, a diolch iddi am ei holl gwaith caled yn ystod ei chyfnod hi fel Cydlynydd. ‘Dw inne rwan yn edrych mlaen i fynd i’r afael â gweinyddu a hyrwyddo gwaith pwysig y gymdeithas o addysgu’r cyhoedd am farddoniaeth Gymraeg mewn print ac ar lwyfannau byw a chyfrannu at y gwaith o feithrin a chefnogi beirdd Cymraeg. Dwi’n teimlo’n hynod o gyffrous i gael y cyfle helpu i ddatblygu cangen newydd, cyffrous Barddas o gyhoeddi llyfrau i blant a phobol ifanc hefyd.”
Dywedodd Aneirin Karadog, Cadeirydd y Gymdeithas Gerdd Dafod;
“Mae’n bleser cael croesawu Alaw i deulu Barddas. Mewn proses gystadleuol fe ddangosodd hi fod ganddi’r union rinweddau, o sgiliau trefnu arobryn i angerdd dros farddoniaeth a’r celfyddydau. Bydd Alaw yn sicr yn gaffaeliad i’r Gymdeithas Gerdd Dafod a’n holl weithgarwch, o Gyhoeddiadau Barddas a’r adain gyhoeddi newydd i blant: Beirdd Bach, i gylchgrawn hirhoedlog Barddas a chynhadledd flynyddol y gymdeithas, sef Gŵyl Gerallt, ymysg pethau eraill. Dymunwn yn dda iawn hefyd i Ffion Medi Lewis-Hughes am y gwaith arbennig a gyflawnodd yn y swydd a phob dymuniad da iddi yng nghamau nesaf yr yrfa.”
Cyfrifoldeb y cydlynydd yw i weinyddu hyrwyddo a marchnata Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod gan barhau i foderneiddio ei phrosesau drwy gyfrannu’n gyson i’r gymdeithas fywiog hon wrth iddi ymdrechu i gynyddu ei gweithgaredd yn y gymuned o fewn ysgolion ac wrth datblygu adain gyhoeddi newydd i blant a phobol ifanc o dan yr enw ‘Beirdd Bach’.
Bydd Alaw Griffiths yn ymuno â thim Barddas yn Swyddogol fel Cydlynydd, dydd Llun, 19 Hydref, 2020.