Cafodd Mihangel Morgan ei eni a’i fagu yn Aberdȃr a dychwelodd yn ôl i fyw yno rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl ar ôl ymddeol o’r Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth fel darlithydd. Mae wedi cyhoeddi sawl nofel, cyfrol o straeon byrion a chyfrolau o farddoniaeth. Enillodd ei gyfrol ‘Dirgel Ddyn’ y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993. Roedd ei nofel ‘Hen Bethau Anghofiedig’ ar restr fer y categori ffuglen, yng Ngwobrau Lyfr y Flwyddyn 2018.
Prosiectau
Hydref 2018