Cerdd gan Elin ap Hywel a fydd yn cael ei chyhoeddi fel rhan o gyfrol newydd y bardd, Dal i Fod.
Llygad y ffynnon
y ffrydio cynnar,
rhuthr y geiriau gwyllt,
parabl y dŵr
rhwng caregos y nant,
sŵn defaid didaro
yn deintio’r borfa,
ac yna’r siffrwd rhwng brigau’r coed,
bysedd gwyrdd y chwyn
yn archwilio ystyron prynhawn o haf,
y cerrig yn y ffrwd, y patrwm
sy’n ei gwneud hi’n bosibl – efallai –
i gamu i’r ochr draw
at yr iaith fel afon
sy’n dy sgubo ymlaen at rywbeth mwy –
y noson ddu ddiffiniau,
yr halen yn grwst ar dy wefus.
Awdur
Elin ap Hywel
Mae Elin ap Hywel yn fardd, yn awdur ac yn gyfieithydd sy’n byw yn Llanilar ger Aberystwyth. Mae hi’n wreiddiol o Fae Colwyn a threuliodd gyfnodau yn byw yn Llundain, Wrecsam, Ynysoedd Aran, Caerdydd ac Aberystwyth. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Pethau Brau (Y Lolfa), yn 1982.