Cerdd gan Elin ap Hywel a fydd yn cael ei chyhoeddi fel rhan o gyfrol newydd y bardd, Dal i Fod.
Tŷ yw hwn sy’n tynnu goleuni,
sy’n plygu ei egni gwyn
yn gynfasau o haul sy’n gorwedd
hyd y grisiau a’r llawr.
Mae’n malu’r awyr, yn taflu disgleirdeb
yn flanced flêr am y soffa a’r stof,
ei dasgu’n rhubanau gloyw sy’n taro
y teils a’r tapiau’n y gawod
cyn gwneud ei wâl ar lawr y cyntedd.
Yn y stydi mae’r cyfan yn dywyll –
y bleinds wedi cau eu cegau’n glep
rhag clebran hanes nos Sadwrn y dref;
syniadau athronwyr a beirdd balch y byd
yn cysgu rhwng cloriau cardbord
wrth hen emynau yn dew ar y piano.
Ac ar y ddesg, sgrapyn o bapur
sy’n llai na hances plentyn
yn feddal, fud, ddieiriau,
yn disgwyl.
Yn ei blygion mae’r byd.
Mae’n gorwedd yno.
Mae’n disgwyl gwaed.
Awdur
Elin ap Hywel
Mae Elin ap Hywel yn fardd, yn awdur ac yn gyfieithydd sy’n byw yn Llanilar ger Aberystwyth. Mae hi’n wreiddiol o Fae Colwyn a threuliodd gyfnodau yn byw yn Llundain, Wrecsam, Ynysoedd Aran, Caerdydd ac Aberystwyth. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Pethau Brau (Y Lolfa), yn 1982.