Mae chwarter canrif oddi ar i mi ddod i wybod am waith Rose Ausländer (1901-1988). Bryd hynny roeddwn i’n dysgu yn Adran Almaeneg Prifysgol Abertawe a daeth cyfle i ysgrifennu am brofiad dieithrwch yn ei gwaith hi. Roeddwn i wedi anghofio am fanylion ei cherddi nes i’r cais ddod gan Barddas i gyfrannu at y golofn hon!
Yn ninas Czernowitz, Bukovina y ganwyd Rose Ausländer, i deulu o Iddewon a siaradai Almaeneg fel eu hiaith gyntaf. Yn y dyddiau hynny, roedd yr ardal hon a fu unwaith yn wreiddiol yn rhan o Foldovia, dan ddeddfwriaeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Bu wedyn yn rhan o Deyrnas Romania ac yna’n rhan o’r Undeb Sofietiaidd. Mae bellach yn rhan o’r Wcráin. Yn 1921, mudodd Rose Scherzer (fel ydoedd bryd hynny) i Efrog Newydd lle bu’n gweithio fel clerc mewn banc ac fel gohebydd i bapur Almaeneg. Yno y dechreuodd gyhoeddi ei cherddi.
Ym 1931, dychwelodd i Czernowitz i ofalu am ei mam, a bu’n gweithio yno tan 1940 fel golygydd ac athrawes Saesneg. Ym 1939, cyhoeddwyd Der Regenbogen (‘Yr Enfys’), ei chyfrol gyntaf o gerddi. Cafodd ganmoliaeth gan y beirniaid, ond difethwyd yr argraffiad i gyd gan y Natsïaid pan oresgynon nhw’r ddinas ym 1941. Am weddill y rhyfel, bu Rose yn byw gyda’i mam a’i brawd yn y ghetto Iddewig, a phan ddechreuodd y Natsïaid anfon yr Iddewon i’r gwersylloedd, bu’n rhaid iddi fyw o’r golwg mewn seler.
Yng Ngwanwyn 1944 rhyddhawyd y ddinas gan y Rwsiaid, ac ymhen ychydig dychwelodd Rose i Efrog Newydd. Oherwydd ei phrofiadau erchyll mae’n debyg ei bod wedi methu sgrifennu yn ei mamiaith am flynyddoedd wedyn. Ym 1965, fodd bynnag, cyhoeddwyd ei hail gyfrol, Blinder Sommer (‘Haf Dall’) ac ym 1967, mudodd yn ei hôl i Ewrop ac ymgartrefu yn Düsseldorf yn yr Almaen. Daliodd ati i farddoni yn ei henaint a bu’n perfformio ei gwaith mewn tŷ tafarn enwog yn y ddinas. ‘Wer bin ich / wenn ich nicht schreibe?’ gofynnodd – ‘Pwy ydwyf / os nad wyf yn sgrifennu?’ Yn ystod deng mlynedd olaf ei bywyd, roedd yn gaeth i’w gwely gyda’r crydcymalau a bu’n rhaid i eraill godi ei cherddi oddi ar lafar. Bu farw ym 1988.
Mae cerddi Rose Ausländer yn aml yn ymdrin â’r profiad o fod yn alltud. Mae’n addas, rywsut, mai ystyr llythrennol ei henw yw ‘Rhosyn yr Estron’.
Noch bist du da
Wirf deine Angst
in die Luft
Bald
ist deine Zeit um
bald
wächst der Himmel
unter dem Gras
fallen deine Träume
ins Nirgends
Noch
duftet die Nelke
singt die Drossel
noch darfst du lieben
Worte verschenken
noch bist du da
Sei was du bist
Gib was du hast
Rwyt ti’n dal yma
Tafla dy ofn
i’r awyr
Cyn hir
bydd dy amser ar ben
cyn hir
bydd y nefoedd yn tyfu
o dan y borfa
bydd dy freuddwydion yn syrthio
i’r Dimbydrwydd
Ond ar hyn o bryd
rwyt ti’n dal i glywed arogl y penigan
a chân y fronfraith
ac ar hyn o bryd cei eto garu
a rhoi geiriau’n anrhegion
ar hyn o bryd, rwyt ti’n dal yma
Bydd yr hyn wyt ti
Rho’r hyn sydd gen ti
Awdur
Mererid Hopwood
Mae Mererid wedi ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n fardd plant Cymru yn 2005-6 ac mae'n aelod o Bwyllgor Barddas.