Adolygiad o Tipiadau, Llion Pryderi Roberts gan Dewi Alter.
Tipiadau yw cyfrol gyntaf Llion Pryderi Roberts, gynt o Frynsiencyn, Ynys Môn, a bellach o Nelson yn y Cymoedd. Gellir ei gwerthfawrogi’n rhan o’r wledd o gyfrolau barddol a gyhoeddwyd eleni – tystiolaeth amlwg fod yr awen yn gryf ac yn iach yn y Gymru gyfoes.
Mae’r teitl a’r cloc sy’n dadfeilio ar y clawr yn dangos mai un o brif themâu’r bardd yw amser. Mewn sawl cerdd sonnir am amser yn diflannu, amser yn mynd heibio ac amser yn syrthio rhwng ein bysedd. Ar adegau mae amser yn rhywbeth i’w drysori yn gyfaill hoff y dylem ddathlu ei
gyfnodau euraid; ar adegau eraill amser yw’r gelyn pennaf, yn arwydd o feidroldeb.
Amser
Yn dilyn patrwm y cloc, ceir tair cerdd ar gyfer pob awr o’r dydd, 72 o gerddi i gyd ar amryw o fesurau; ceir sonedau a chywyddau a thelynegion i enwi ond rhai. Adleisir nifer o ddelweddau’r cerddi yn y gyfrol sy’n rhoi naws orffenedig a thynn iddi. Ond yn bennaf oll, cyflëir, er bod amser yn mynd yn ei flaen, nad ydym yn newid yn ein hanfod, a bod amser yn ei ailadrodd ei hun.
Egyr Llion Pryderi Roberts ei orffennol â nifer o gerddi ysgytwol gan ddatguddio’n grefftus ac ingol o boenus ei brofiad o alaru. Cenir hefyd am ei fwynhad fel tad wrth dystio i ddychymyg rhyfeddol ei blant, heb anghofio amdano ei hun fel gŵr, mab ac ŵyr. Nid yw’n cuddio tu ôl i bersona dychmygol, yn hytrach personau gwahanol o oes y bardd sydd yma. Mae ei gariad at ei deulu’n amlwg, a chyfrol yw hon sy’n rhoi cipolwg inni o’r bardd fel person go iawn, fel rhan o uned deuluol. Fe’n tynnir i gylch profiad y bardd wrth iddo ailddarlunio’i orffennol trwy ei atgofion.
Cof
Un o themâu amlwg eraill y gyfrol yw’r cof. Nid thema newydd yw hon i feirdd na llenorion! Yn nrama y Groegiwr Sophocles, Oedipos Frenin, mae’n rhaid i’r prif gymeriad ddarganfod ei orffennol a’i berchnogi er mwyn gwybod pwy ydyw yn y presennol. Mae’r cof hefyd yn amlwg yn y traddodiad Cymraeg, yng ngherddi Gwenallt a Gerallt Lloyd Owen. Efallai ei bod yn briodol tynnu sylw hefyd at Treiglo, Gwyneth Lewis: y cof fel trawma o golli rhiant sy’n gyrru’r gyfrol honno.
Mae cynnwys y cof yn mynd â bryd y bardd hwn hefyd, ac mae effaith trawma ar ei ddatblygiad fel unigolyn yn llinyn drwy’r gyfrol yn ei awen bersonol
Yn gyffredinol, yr hyn sy’n gwahaniaethu’r cof oddi wrth y gorffennol yw’r ddealltwriaeth oddrychol a phersonol o’r hyn a fu y mae’n ei chynnig; golwg ar y gorffennol o safbwynt y bardd sy gennym. Iddo ef, mae’r cof yn rhywbeth diriaethol a grymus yn y presennol gyda’i ddeinamig ei hun. Yn aml gall ein meddiannu’n ddirybudd. Fe’i personolir yn ‘Atgof’ ac mae’n cyd-fwyta gyda’r bardd. Ond wrth iddi wawrio diflannu a wna’r cof, mae gwirionedd diriaethol bellach wedi diflannu. Priodol iawn yw galw’r cof yn ‘Sinderela’.
Cynigia’r cof bont i’r bardd rhwng y byw a’r meirw, yn wir ‘rhaff achub atgofion’ yw nifer o’r cerddi hyn. I nodi un enghraifft, yn ‘Ellers’ mae hoff emyn ei fam yn dod yn rhyw fath o lieux de mémoire ymhle y gall y bardd gofio’i fam. Gynt roedd ei chanu’n ‘[f]yrdwn’; bellach mae’n ‘groes i’w chario’. Yn hollol ddisgwyliedig, gwrthrych aml y cof yw mam y bardd. Rhy’r cof cyfle iddo brosesu a deall ei marw, a gofyn cwestiynau
mawr am fodolaeth a phwrpas bywyd.
Gwelwn hefyd fod y cof yn fregus, fel yr ydym yn cofio pethau sydd wedi digwydd, pethau sydd wedi mynd, mae’r atgofion hefyd, er mor rymus ydynt, yn gallu diflannu fel y gwnaeth yr amseroedd ymhle y’u lluniwyd. Rhaid cofio mai gweithredoedd sy’n cadw’r atgofion hyn yn y cof. Y weithred o’u cofio. Bid siŵr, gweithred anghyflawn ydyw: nid yw’n bosibl ail-greu’r gorffennol. Ond nid y gorffennol-go-iawn ydyw, ond yn hytrach y gorffennol wedi ei lunio yn greadigol, a’r unigolyn sy’n cofio yn rhan o’r
digwydd.
Dyma gyfrol yn sicr i ddychwelyd ati wrth i amser fynd yn ei flaen. Gobeithiaf – i fod yn fyfïol am eiliad – y bydd beirdd Cymraeg yn archwilio’r cysyniad cyffröus a chyfoes hwn o hyd.
Awdur
Dewi Alter
Mae Dewi Alter yn fardd ac awdur sydd wedi cyfrannu i nifer o gyhoeddiadau megis Barddas, y Stamp ac O'r Pedwar Gwynt.