O safbwynt gweithiwr swyddfa!
Aeth Gorffennaf.
Haf o hyd ydyw hi,
ac mae’n dwym! Criw chwyslyd
yn y gwaith ŷm ni i gyd!
Rhoes haf ei greisis, hefyd,
a’n creisis? Do, fe’n craswyd bob yr un,
fel hash browns, fe’n ffrïwyd!
Ond gwres rhy gynnes a gwyd
i’n canol – fe’n air-coniwyd,
ond nid air-con sy’n llonni’n awelon
rhwng waliau i’n hoeri
sydd fan hyn i’n swyddfa ni:
Yn yr ha, mae’n ein RHEWI!
Mae’n bwerus, mae’n beiriant y nenfwd!
Anghenfil diwydiant
heb ei ail, ddirgryna bant
â’i orchwyl uwch-ddisgyrchiant,
yn gerrynt Arctig araf i’n fferru,
caiff herio’r rhai gwytnaf!
Ein gwae dry’n frethyn gaeaf,
bobble hats heb awel haf,
heb synnwyr! Codwn, hwyrach, rhyw wegian
o’n rhewgell dan rwgnach
mas i’r stryd, am funud fach;
man go neis. Mae’n gynhesach!
Awdur
Aron Pritchard
Aelod o dîm Aberhafren ar y Talwrn (cafodd Dlws Coffa Dic yr Hendre am gywydd gorau’r gyfres yn 2011) a thîm Morgannwg yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hefyd yn un o Feirdd y Bragdy yn y nosweithiau barddoniaeth byw poblogaidd, Bragdy’r Beirdd, yng Nghaerdydd.