Casgliad o gerddi sydd wedi eu cyflwyno i siaradwyr olaf gwahanol ieithoedd ar draws y byd yw’r gyfrol, gyda nodyn cryno i egluro hanes bob iaith.
Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Pris: 7.95
Disgrifiad
O’r Gernyweg a’r Fanaweg i’r Ddalmatieg a’r Ocsitaneg; o ieithoedd lleafrifol a siaredid gynt mewn rhannau o Dwrci, Alasga, Latfia ac India, i ieithoedd a gysylltir â gwahanol lwythi yng ngogledd a de Califfornia, Canada a Thiriogaeth y Gogledd yn Awstralia – maent oll yn cael sylw yn y gyfrol hon. Siaradwr neu siaradwraig olaf honedig yr iaith dan sylw yw gwrthrych pob cerdd, a thrwy gyfrwng dychymyg y bardd cawn glywed eu hanesion, eu teimladau hiraethus a’u safbwyntiau dychmygol tuag at eu hieithoedd diflanedig.
Maent oll yn gerddi rhydd newydd sbon ac mae dawn Mihangel Morgan i ddweud stori’n amlwg ynddynt. Mae’r iaith yn gynnil ac yn llawn eironi crafog sydd mor nodweddiadol o’i lenyddiaeth. Ceir yma ddiniweidrwydd syml yn ei bortreadau o’r siaradwyr ochr yn ochr â neges frawychus: wrth i’r siaradwyr olaf hyn ein gadael mae eu hieithoedd hefyd yn marw o flaen ein llygaid a ‘… t[h]afod neb ni eilw arnynt mwy’ yng ngeiriau Waldo.
Hon yw’r bedwaredd gyfrol o gerddi i Mihangel Morgan ei chyhoeddi gyda Chyhoeddiadau Barddas. Mae hefyd yn nofelydd adnabyddus ac wedi cael cryn lwyddiant gyda’i nofel ddiweddaraf a gyrhaeddodd restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Bu Mihangel yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, am bron i bum mlynedd ar hugain. Erbyn hyn, mae wedi symud yn ôl i’w ardal enedigol yn Aberdâr, Morgannwg.